Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4991


145

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.20

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig

Dechreuodd yr eitem am 14.58

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid – Cymru, Cenedl sy'n Noddfa

Dechreuodd yr eitem am 15.38

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid Anwes

Dechreuodd yr eitem am 16:29

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: Gwneud i'r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif - TYNNWYD YN ÔL

</AI6>

<AI7>

7       Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Dechreuodd yr eitem am 17.11

NDM6742 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2018. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl: Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.67, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ei fod wedi derbyn gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod i’r Cynulliad fod y ddau ohonynt, ar ôl cael gwybod am gynnwys Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), wedi rhoi eu cydsyniad i’r Bil.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6746 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

5

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

9       Dadl:  Dwy Flynedd ers Refferendwm yr UE

Dechreuodd yr eitem am 17.43

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin 2018.

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn trafodaethau gyda'r UE.

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

38

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 -Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

35

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 -Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai "unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn" ganddi.

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

3

40

51

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 -Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, "Nid oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl".

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

43

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin 2018.

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig.

</AI9>

<AI10>

10   Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.43

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.45

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>